Mae’r atgyweiriad £2.8 miliwn i Neuadd Marchnad Aberteifi newydd gychwyn

Mae gwaith atgyweirio yn cael ei wneud bellach ar neuadd hanesyddol y Farchnad yn Aberteifi a fydd o gymorth wrth sicrhau dyfodol yr adeilad arbennig hwn. Bydd y prosiect £2.7 miliwn hwn yn cynnwys trwsio strwythurol a gwaith y mae angen brys arno wrth ddiogelu a gwella’r nodweddion treftadaeth sydd ar yr adeilad marchnad unigryw hwn. Mae cam diweddaraf y gwaith hwn, a arweiniwyd gan Ymddiriedolaeth Cadwraeth Adeiladau Aberteifi, yn dilyn atgyweiriad eang yr Ymddiriedolaeth ar Neuadd y Dref, y Gyfnewidfa Yd a’r Cwrt ddegawd yn ôl.

Cynhwysir atgyweiriadau helaeth i’r to ac i’r waliau er mwyn atal mewnlifiad dŵr ar raddfa sylweddol, gosod system wresogi a phaneli solar a gwella’r system drydanol. Bydd bloc hollol newydd yn hwyluso mynediad uniongyrchol o’r maes parcio i ddau lawr y farchnad ac i’r Stryd Fawr ac yn cynnwys lifft a thoiledau cyhoeddus. Uwchraddir ac adnewyddir y stondinau marchnad hefyd, gan wella’r cyfleusterau i’r masnachwyr yn ogystal â’r gymuned leol ac ymwelwyr. Gwarchodir swyddi’r stondinwyr cyfredol a darperir cyfleon i fusnesau newydd.

Bydd treftadaeth Neuadd y Farchnad yn cael ei chroniclo hefyd gan bwysleisio pensaernïaeth unigryw a hanes cymdeithasol cyfoethog yr adeilad, sydd wedi bod yn farchnad ers iddo gael ei agor yn 1860, gan greu atyniad treftadaeth i bobl leol ac i ymwelwyr mewn cyrchfan croesawgar ar gyfer siopa a bwyta.

Dywedodd ysgrifennydd yr Ymddiriedolaeth, Lindsay Sheen:

“Bydd y prosiect yn atgyweirio ac yn gwella’r holl adeilad gan ddiogelu ei dreftadaeth bensaernïol unigryw ac yn y pen draw, ar ôl i’r gwaith ddod i ben, bydd yr adeilad yn wir gynaliadwy yn economaidd ac yn gymdeithasol. Yn bwysicach byth bydd Neuadd y Farchnad yn aros yn farchnadfa ffyniannus, yn lle bod yn adeilad treftadaeth mewn perygl. Mae’r stondinwyr wedi bod yn gyfranwyr hanfodol i’r prosiect drwyddi draw ac mae’r Ymddiriedolaeth yn gwerthfawrogi’n fawr eu hamynedd a’u cydweithrediad yn ystod y cyfnod adleoli. Maent yn gwahodd eu cwsmeriaid, hen a newydd, i gefnogi’r busnesau unigryw hyn yn eu safleoedd dros dro isod.

Galluogir cam cyfredol Prosiect Atgyweirio Neuadd Marchnad Aberteifi gan grantiau oddi wrth:

  • Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop trwy raglen Adeiladu i’r Dyfodol Llywodraeth Cymru
  • Rhaglen Llywodraeth Cymru – Adeiladu i’r Dyfodol
  • Cyngor Sir Ceredigion
  • Rhaglen Llywodraeth Cymru – Trawsffurfio Trefi
  • Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020 Llywodraeth Cymru, a ariannwyd gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a chan Lywodraeth Cymru
  • Cronfa Cymunedau Arfordirol wedi’i gweinyddu gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol ar ran Llywodraeth Cymru
  • CADW ar ran Llywodraeth Cymru

Y Farchnad Uchaf yn hwyr yn y 19eg ganrif

Mae’r gwaith wedi cychwyn bellach ar lefel uchaf a lefel isaf y Farchnad. Codwyd sgaffaldwaith y tu mewn a’r tu allan iddi wrth baratoi ar gyfer gwaith ail-doi ac ail-wydro’r adeilad a thrin ei broblemau strwythurol.

Sgaffaldwaith a’r llawr amddiffyn

Cwrt Neuadd y Farchnad cyn gosod y sgaffaldwaith

llawr isaf mae cerrig llorio yn cael eu codi a’u storio fel y gellir gosod gwresogi tanlawr a gwella pibellwaith. Ailosodir y cerrig sydd mewn cyflwr addas ar y llwybrau rhwng y stondinau.