Cyn cychwn y gwaith ar atgyweirio yn gyfan gwbl Neuadd Dreftadaeth Marchnad Aberteifi, mae masnachwyr y farchnad wedi adleoli eu busnesau i ddwy brif ardal. Byddant yn mynd â holl lawr isaf un o’r prif adeiladau yn Stryd y Cei a hefyd lefydd yng Nghanolfan Teifi a dwy o swyddfeydd Neuadd y Dref.
Gwelir manylion yr adleoli yn Stryd y Cei yma a Chanolfan Teifi / Neuadd y Dre yma.
Mae’r ymgymeriad mawr hwn, sydd wedi’i arwain gan Ymddiriedolaeth Cadwraeth Adeiladau Aberteifi, yn dilyn yr adnewyddiad o Neuadd y Dref gan yr Ymddiriedolaeth a ddaeth i ben yn 2009.
Defnyddiwch ein cyfleuster chwilio i ddod o hyd i’r hyn yr ydych ei angen
Croeso i Farchnad Neuadd y Dref hanesyddol Aberteifi. Y tu mewn mae gennym dros 50 o siopau sy’n gwerthu miloedd o gynhyrchion, llawer ohonynt wedi eu gwneud yn lleol, yn ogystal â chaffi gwych. Galwch i mewn pan fyddwch chi nesaf yn y dref.