Menter Aberteifi

menter-aberteifi

Mae Menter Aberteifi yn gwmni adfywio cymunedol sydd a’i ganolfan yn ardal Aberteifi. Sefydlwyd y Fenter yn wreiddiol yn 1996 gyda’r nod penodol o “hyrwyddo a gosod ar waith adfywiad llwyddiannus Tref Aberteifi, a hynny er lles y gymuned”. Ers y cyfnod hwnnw mae’r sefydliad wedi datblygu yn gwmni cyfyngedig trwy warant ‘dielw’ sy’n cael ei weithredu gan Fwrdd o Gyfarwyddwyr etholedig.

Board of Directors Cyf

Bwrdd Cyfarwyddwyr

  • Mr Julian Beynon-Lewis
  • Mr Jay Bura
  • Ms Olwen Davies
  • Mr Tom Parry
  • Mr Arwyn Reed
  • Mrs Nerys Evans
  • Mrs Sian Maehrlein
  • Mr Mark Williams

Cynrychiolwyr Penodedig

  • Mr Tim Phillips (Siambar Fasnach)
  • Cyng Elaine Evans (Cyngor Dref Aberteifi)
  • Cyng Marily Farmer (Cyngor Dref Aberteifi) – Dirprwy
  • Cyng Rhodri Evans (Cyngorydd Sir)
  • Mr Martin Radley (Masnachwyr Aberteifi)
  • Mr Huw Thomas (Coleg Ceredigion)
  • Mrs Lindsay Sheen (Ymddiriedolaeth Cadwraeth Adeiladau Aberteifi
  • Mynychwr Wahoddwyd – Gareth Rowlands (Cyngor Sir Ceredigion)
Cardigan-Guildhall-Market-707

Mae Menter Aberteifi wedi mynd o nerth i nerth ac wedi tyfu yn ei faintioli fel sefydliad “llawr gwlad” sy’n cynorthwyo i hwyluso a datblygu prosiectau adfywio cymunedol yn ardal Aberteifi; mae wedi ennill enw da hefyd fel grŵp adfywio cymunedol rhagweithiol sy’n cynorthwyo ac yn gweithredu fel rhyngwyneb rhwng cyrff gwirfoddol a chyrff statudol.

guildhall-market-interior

Mae’r cwmni yn agor ei ddrysau i bawb sy’n pryderu am agweddau ar economi ac amgylchedd ffisegol neu gymdeithasol tref Aberteifi a’r cyffiniau, gan gynnig i’r trigolion lleol lwybr o ymwneud gweithredol anwleidyddol er mwyn mynd i’r afael ag anghenion y gymuned. Yn ystod y blynyddoedd a aeth heibio, mae cannoedd o unigolion a llawer o grwpiau gwirfoddol wedi cymryd rhan yng ngweithgareddau’r cwmni.

Rhannu'r dudalen hon: